Newyddion y Cyngor Cymuned (English version below)
Yn gyntaf oll, gobeithio eich bod chi i gyd wedi cael haf da a gwyliau braf - yn rhywle poeth yn ddelfrydol - ac ymhell i ffwrdd o wae Brexit, gwaith - a goleuadau traffig Llantrisant Road. Rydyn ni wedi bod yn gweithio'n galed dros yr haf, gan ddatblygu nifer o brosiectau ar draws Radur a Threforgan. Mae'r rhain yn cynnwys: Mae Cyngor Caerdydd wedi ein gwahodd i gyflwyno syniadau ar gyfer ei restr syniadau seilwaith newydd. Bydd y rhain yn brosiectau y gall Caerdydd eu hariannu trwy arian Adran 106 (a ddarperir gan ddatblygwyr tai, fel rhan o'u cytundebau o ran caniatâd cynllunio). Rydym wedi casglu syniadau preswylwyr trwy arolwg ar-lein - a thrwy'r RMA. Mae gennym ni ein syniadau ein hunain hefyd! Mae hwn yn gyfle cyffrous iawn i Radur a Threforgan - a byddwn yn cyhoeddi ein cyfraniad at y rhestr yn y dyfodol agos. Gellir cyflwyno syniadau newydd ar unrhyw adeg, gan y bydd Caerdydd yn cadw eu rhestr fel dogfen 'fyw'. Mae angen 'health warning' ar gyfer hyn, fodd bynnag, gan ei bod yn annhebygol y bydd Caerdydd yn derbyn pob syniad am gyllid. Ond os na chyflwynwn unrhyw syniadau - ni chawn unrhyw arian! Byddwn hefyd yn cwrdd â thîm Adran 106 Caerdydd yn y dyfodol agos, i drafod ein syniadau. Diogelwch ar y ffyrdd: cawsom gyfarfod rhagorol gyda thîm Trafnidiaeth Cyngor Caerdydd ar 10 Medi. Gwnaethom drafod sawl eitem, gan gynnwys gosod safle Nextbikes y tu allan i McColl's ar Ffordd yr Orsaf (gyda mwy o safleoedd yn cael eu hystyried, gan gynnwys beiciau trydan yng Ngorsaf Radyr). Mae dechrau'r gwaith wedi'i gynllunio ar gyfer Ionawr / Chwefror 2020 ar gyfer ein tair croesfan sebra newydd, ger Heol Syr Lewis, Ty Mynydd Close a Rectory Close. Mae'r paratoadau cyfreithiol ar y gweill i gyflwyno parth 20mya ar draws Radur a Threforgan (ar wahân i Barc Radur). Dylai'r cynllun gael ei gyflwyno yng ngwanwyn / haf 2020. Mae Golf Club Lane i fod i gau - gyda'r gwaith yn cael ei wneud yn haf 2020. Ac mae'r Cyngor wedi gofyn i ni gynnig gwelliannau i ardal Ffordd yr Orsaf, er mwyn gwella ei rôl fel lle ar gyfer y gymuned i gwrdd, siopa a chymdeithasu. Byddwn yn cynnal arolwg ar-lein am hyn, yn fuan, i ofyn am farn a syniadau gan breswylwyr. Ac rydym, wrth gwrs, wedi mynegi ein pryderon ynghylch goleuadau traffig Llantrisant Road. Gallwch ymweld ag adran Newyddion ein gwefan i ddarllen mwy am y cyfarfod. Mae Caerdydd yn ymgynghori ar ysgol gynradd newydd i'w hadeiladu ar safle Plasdwr. Ysgol ddwyieithog fydd hon, gyda ffrydiau Saesneg a Chymraeg. Unwaith eto, gallwch ddarllen mwy am hyn ar ein gwefan. Mae Hen Ysgoldy'r Eglwys wedi cael mân wellliannau dros yr haf, gan gynnwys gosod teils 'oak-effect' yn y brif neuadd. Rydyn ni'n credu ei fod yn gwneud i'r ystafell edrych yn fwy, yn well ac yn oleuach. Bydd hefyd yn llawer haws i ddefnyddwyr y neuadd lanhau ar ôl eu digwyddiadau. Dim mwy o olchi Camembert o deils carped ar ôl parti caws a gwin. Dim mwy o ymosod ar staen win coch gyda lliain gwlyb. Dim ond mopio ac ysgubo! Rydym hefyd wedi bod yn trafod prynu piano newydd ar gyfer y neuadd - a fyddai’n plesio’r grwpiau hynny sy’n defnyddio’r Ysgoldy ar gyfer ymarferion côr a chyngherddau. Yn y dyfodol agos byddwn yn ystyried darparu cyfleusterau, gweithgareddau a chefnogaeth i'n pobl ifanc. Gwneir y gwaith hwn ar y cyd â nifer o asiantaethau a sefydliadau - yn ogystal â phobl ifanc o bob rhan o Radur a Threforgan. Rydyn ni am iddyn nhw fwynhau ystod o weithgareddau - a chael lleoedd da i gymdeithasu - tra'n rannu'r gwerthoedd sy'n helpu i wneud Radur a Threforgan yn lle gwych i fyw ynddo. Rydym wedi ymateb ar ein gwefan i'r ymosodiad llosgi bwriadol ar guddfan adar wedi'i leoli yn Forest Farm. Er nad yw hyn yn Radyr a Threforgan, mae'n ardal y mae aelodau ein cymuned yn ei mwynhau. Mae'n drueni mawr bod rhai pobl o'r farn bod rhoi adnodd cymunedol ar dân yn rhywbeth sy'n werth ei wneud - ac mae'n anodd credu bod ganddyn nhw unrhyw barch at eu cymuned a'u cymdogion. Efallai nad ydyn nhw'n ymwybodol o'r cosbau y gallen nhw eu hwynebu, pe bydden nhw'n cael eu dal. Nodir y rhain yng Nghanllawiau Dedfrydu'r Cyngor Dedfrydu. Gall tân fel yr un hwn, sy'n achosi difrod cymedrol i safle cyhoeddus, arwain at ddedfryd o garchar yn amrywio rhwng 6 a 26 wythnos. Mae cosbau tebyg yn bodoli am ddifrod troseddol. Dylai unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am yr ymosodiad gysylltu â'r heddlu. Yn olaf, rwy'n falch iawn o gyhoeddi penodiad dau aelod newydd i'n tîm. Yn ymuno â ni fel cynghorydd ar gyfer ward Treforgan mae Vina Patel. Mae Vina eisoes yn aelod gweithgar o'n cymuned - ac edrychwn ymlaen at elwa o'i phrofiad wrth inni ddatblygu ein gwaith. Rydym hefyd yn croesawu Michelle Lenton-Johnson i'n tîm. Er nad yw'n gynghorydd, bydd yn ymuno â ni yn ein cyfarfodydd cyngor - gan ddod â gwybodaeth leol werthfawr a'i brwdfrydedd aruthrol i'n gwaith. Croeso i'r ddau! Y Cynghorydd Huw Onllwyn Jones Cadeirydd Cyngor Cymuned Radyr a Threforgan Medi 2019
0 Comments
Leave a Reply. |
huw jonesOur Chair shares his thoughts about the Council's work Archives
March 2021
|